Bydd y Prif Weinidog Boris Johnson yn cadeirio cyfarfod o Gabinet Llywodraeth Prydain  drwy gyswllt fideo heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 31), wrth iddo barhau i hunanynysu ar ôl profi’n bositif am y coronafeirws.

Mae pwysau cynyddol ar y Llywodraeth i gael mwy o gyfarpar diogelu ar gyfer gweithwyr iechyd.

Mae’r prif weinidog wedi’i feirniadu’n hallt oherwydd prinder offer diogelu personol i’r gweithwyr iechyd ar flaen y gad, ynghyd â pha mor araf yw’r broses o brofi’r gweithwyr.

Mae’n debygol y bydd y materion yma’n cael eu trafod yn ystod y cyfarfod.

Cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn dod i ben am y tro

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth pedwar gweinidog o’r llywodraeth gyfarfod wyneb yn wyneb – Boris Johnson, yr Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock, Ysgrifennydd y Cabinet Sir Mark Sedwill a’r Prif Swyddog Meddygol, yr Athro Chris Whitty, tra’r oedd eraill yn ymuno trwy’r ap Zoom.

Ers hynny, mae Boris Johnson a Matt Hancock wedi profi’n bositif am Covid-19, tra bo’r Athro Chris Whitty yn hunanynysu ar ôl datblygu symptomau.

Heddiw, mae disgwyl i bawb gyfarfod drwy gyswllt fideo.

Profion

Mae’r cyn-Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt wedi lleisio’i bryderon am y diffyg profi yng ngwledydd Prydain ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad yw’r Llywodraeth wedi cyrraedd eu targed o 10,000 o brofion y dydd.

Daw hyn er i Matt Hancock honni’n ddiweddar eu bod nhw wedi cyrraedd y targed.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi erfyn ar wledydd i “brofi, profi, profi” fel rhan bwysig o’u strategaeth i guro’r feirws.

Ond mae swyddogion wedi cyfaddef nad oes gan wledydd Prydain yr un capasiti â gwledydd eraill sydd yn profi mwy, gan gynnwys yr Almaen sydd yn cynnal tua 70,000 o brofion y dydd.

“Y fantais fwyaf sydd gennym ni’n awr ydi’r dystiolaeth fod profi yn gweithio mewn gwledydd eraill,” meddai Jeremy Hunt.

“Gallwn weld fod gwledydd Asiaidd wedi bod yn llawer mwy llwyddiannus na gwledydd Ewropeaidd yn osgoi lockdown.”

Gweinidogion wedi torri eu rheolau eu hunain

Mae’r Ysgrifennydd Addysg Gavin Williamson wedi canmol Boris Johnson, gan ddweud bod ei waith yn ddiflino er ei fod wedi gorfod hunanynysu ar ôl cael ei heintio.

Ond mae’n wfftio’r feirniadaeth yn sgil Boris Johnson yn cael ei heintio, gan fod y gweinidogion wedi anwybyddu eu rheolau eu hunain ar ymbellháu cymdeithasol.

“Mae pawb yn sylweddoli bod Llundain, ac yn fwy penodol canol Llundain, wedi bod yn un o brif ardaloedd y firws,” meddai.

“Byddai’r rhan fwyaf o bobol wedi dal y feirws hyd yn oed cyn i’r rheolau newydd yma gael eu gosod.”