Mae’r gadwyn o fwytai Eidalaidd Carluccio’s wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr gan roi dyfodol 71 o fwytai a 2,000 o swyddi yn y fantol.

Mae’r cwmni, a gafodd ei sefydlu yn 1991, wedi cadarhau eu bod wedi penodi cwmni ymgynghorol FRP fel gweinyddwyr.

Daeth penderfyniad cyfarwyddwyr y cwmni “wedi cyfnod o amgylchiadau masnachu heriol sydd wedi cael eu gwaethygu gan y coronafeirws a’r problemau ehangach mae’r sector yn y Deyrnas Unedig yn wynebu.”

Mae Carluccio’s wedi wynebu “problemau llif arian sylweddol” yn sgil y pandemig ac felly heb allu cyflawni ei hoblygiadau ariannol.

Dywed y gweinyddwyr eu bod yn siarad gyda chwmnïau “sydd â diddordeb ynghylch gwerthiant y busnes.”

Cafodd cyflog staff y cwmni ei haneru am y mis diwethaf fel rhan o fesurau torri costau i leddfu effaith y pandemig.

Dywed y prif weithredwr Mark Jones nad yw’n derbyn cyflog am y mis mewn ymdrech i arbed arian.

BrightHouse hefyd yn nwylo’r gweinyddwyr

Mae dros 2,400 o swyddi yn y fantol wedi i’r cwmni rhent-i-brynu BrightHouse gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr heddiw (dydd Llun, Mawrth 30), ychydig ddyddiau’n unig wedi i’r cwmni orfod cau ei siopau yn sgil y pandemig coronafeirws.

Mae’r cwmni, sydd â 240 o siopau, wedi penodi Grant Thornton i redeg y busnes, a chasglu arian gan gwsmeriaid.