Daeth cadarnhad bod y Prif Weinidog Boris Johnson yn dioddef o’r coronafeirws.

Mae disgwyl iddo barhau i arwain Llywodraeth Prydain. Mi fydd yn hunan-ynysu yn 10 Stryd Downing.

Yn ôl adroddiadau, mae gan y Prif Weinidog symptomau eithaf ysgafn o’r cyflwr.

“Fe gafodd ei brofi am y coronafeirws ar gyngor personol prif swyddog meddygol Lloegr, Chris Whitty,” meddai datganiad gan Lywodraeth Prydain.

“Gyda’n gilydd fe wnawn ni drechu hwn”

Mae Boris Johnson wedi trydar yn dweud: “Dros y 24 awr ddiwethaf dw i wedi datblygu symptomau ysgafn ac wedi profi’n bositif am coronafeirws. Rwyf yn hunan ynysu nawr, ond bydda i’n parhau i arwain ymateb y llywodraeth drwy gynadleddau fideo wrth i ni frwydro’r feirws.

“Gyda’n gilydd fe wnawn ni drechu hwn.”

Neithiwr oedd y tro olaf i ni weld Boris Johnson yn gyhoeddus, a hynny yn clapio ei gymeradwyaeth  i staff y Gwasanaeth Iechyd tu allan i Rif 10 Stryd Downing am wyth neithiwr.

Mae yna dros 11,600 o achosion coronafeirws wedi eu cadarnhau ym Mhrydain, a 578 wedi marw.

FIDEO o Boris Johnson yn datgelu fod ganddo’r feirws…