Fe fydd Llywodraeth Prydain yn talu 80% o gyflogau gweithwyr hunangyflogedig fel rhan o gynllun i ymateb i’r coronafeirws.

Bydd hyn yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio elw misol cyfartalog dros y tair blynedd ariannol diwethaf, a bydd modd trethu’r swm.

Bydd cap o £2,500 y mis am dri mis yn y lle cyntaf, meddai Rishi Sunak, Canghellor San Steffan.

Mae disgwyl i’r cymorth fod ar gael ym mis Mehefin ac mae’r Canghellor yn dweud y bydd 95% o weithwyr hunangyflogedig ar eu hennill yn sgil ei gyhoeddiad.

Bydd y rhai sy’n gymwys yn derbyn gohebiaeth gan yr Adran Gyllid a Thollau, a bydd yr arian yn cael ei dalu’n syth i’w cyfrifon banc.

Bydd unrhyw un oedd wedi methu cyflwyno’r dyddiad cau ym mis Ionawr yn cael pedair wythnos i gyflwyno’u trethi er mwyn derbyn cymorth.

Er ei fod yn dweud bod y cymorth yn targedu’r rhai mwyaf anghennus, mae’n rhybuddio na fydd modd gwarchod pob swydd.

Yn ôl Rishi Sunak, mae’r cynlluniau sydd wedi’u hamlinellu’n “hael iawn” ac yn “gosod pobol hunangyflogedig ar yr un lefel â’r rhai cyflogedig”.