Mae arolwg gan CherryDigital.com, cwmni cysylltiadau cyhoeddus yn Llundain, wedi cynnal arolwg o 3,800 o bobol o wledydd Prydain i weld sut mae’r coronafeirws yn effeithio ar berthnasau.

Mae wedi darganfod bod mwyafrif o 68% yn dweud bod gweithio o adref bob dydd wedi rhoi straen ar eu perthynas gyda’u partneriaid yn barod.

A dywed 63% sy’n gweithio o adref gyda’u partneriaid nad oes ganddyn nhw ddigon o le i weithio’n gyfforddus.

Mae’n debyg bod cyfuniad o ddiffyg lle neu fod angen llwyth mawr o offer i wneud rhai swyddi yn ei gwneud hi’n anodd i bobol ddod o hyd i le cyfforddus i weithio o adref.

Holodd yr arolwg pa berson yn y berthynas oedd wedi cymryd y mwyaf o gamau i baratoi ar gyfer hunanynysu, gyda 72% o ferched yn dweud mai nhw oedd wedi gwneud.

Mae hyn yn cymharu â’r 52% o ddynion oedd wedi dweud mai nhw oedd wedi paratoi fwyaf.

Ac er bod nifer o bethau i dynnu pobol oddi wrth eu gwaith, dywed 61% o’r bobol gafodd eu holi fod gweithio o adref wedi cynyddu pa mor gynhyrchiol ydyn nhw.