Mae newyddiadurwyr sy’n gohebu ar achosion llys yr Old Bailey wedi cael caniatâd i wylio’r achosion o adref.

Mae lle i gredu mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gael yr hawl i wneud hynny, ac fe ddaw wrth i’r llysoedd ymateb i’r coronafeirws.

Heddiw, mae newyddiadurwyr wedi bod yn ffonio i mewn i wrando ar wrandawiadau cychwynnol dan ofal y barnwr Angela Rafferty.

Fe wnaeth y Press Association, y London Evening Standard a’r BBC gais i wneud hynny yn enw cyfiawnder.

Roedd diffynyddion a’u cyfreithwyr eisoes yn cymryd rhan mewn gwrandawiadau o bell, ac mae achosion newydd wedi’u gohirio.

Achos cyntaf

Yn yr achos cyntaf o dan y drefn dros dro, aeth Rhian Beresford gerbron yr Old Bailey trwy gyswllt fideo o’r carchar.

Cafodd y ddynes 28 oed ei chyhuddo ddydd Mawrth (Mawrth 24) o lofruddio Stefan Melnyk, 54, a cheisio llofruddio dyn arall yn dilyn digwyddiad yr wythnos ddiwethaf pan gafodd dyn ei daro gan gar.

Cafodd ei chadw yn y ddalfa tan Fehefin 11.