Mae Ynys Manaw wedi cau ei ffiniau i bawb o’r tu allan wrth fynd i’r afael â’r coronafeirws.

Bydd y mesurau yn eu lle am o leiaf dair wythnos i ddechrau, ond gallai’r cyfnod hwnnw gael ei ymestyn.

Roedd ffiniau’r ynys eisoes ynghau i bobol nad oedden nhw’n byw ar yr ynys, ond mae’n cynnwys unrhyw un bellach sy’n ceisio dychwelyd yno hefyd.

Yn ôl y prif weinidog Howard Quayle, fydd neb yn cael hedfan i faes awyr Ronaldsway na glanio ar yr ynys ar ôl heddiw (dydd Iau, Mawrth 26).

Yr unig eithriadau, meddai, fyddai cerbydau sy’n cludo nwyddau meddygol a’r post.

Fydd neb ychwaith yn cael hwylio yno ar ôl i’r cwch olaf gyrraedd fore Gwener (Mawrth 27).