Bydd Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, yn cyflwyno pecyn cenogaeth i helpu pobol hunangyflogedig i ymdopi â’r coronafeirws.

Daw hyn wedi i’r Prif Weinidog Boris Johnson ddweud wrth y Senedd ei fod eisiau “cydraddoldeb mewn cefnogaeth” fel bod pobol hunangyflogedig yn derbyn lefelau tebyg o gefnogaeth i weithwyr cyflogedig.

Bydd y Canghellor yn amlinellu ei fesurau heddiw (dydd Iau, Mawrth 26), ar y diwrnod pan fo nifer y bobol sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws yn debygol o fynd y tu hwnt i 10,000.

Maen nhw’n cynnwys Tywysog Charles, sydd yn ynysu ei hun yn yr Alban wedi iddo brofi’n bositif am y coronafeirws.

Mewn ychydig dros 24 awr, mae dros 500,000 o bobol wedi gwirfoddoli i helpu’r Gwasanaeth Iechyd yn ystod yr argyfwng, ar ôl i Boris Johnson bledio am 250,000 o wirfoddolwyr.

Peiriannau

Dywed y biliynydd Sir James Dyson fod y Llywodraeth wedi archebu 10,000 o beiriannau anadlu gan ei gwmni.

Yn ôl rhaglen Today ar BBC Radio 4, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock ddydd Llun (Mawrth 23) fod 12,000 o beiriannau anadlu ar gael, ond eglurodd yr Adran Iechyd ddoe (dydd Mercher, Mawrth 25) mai 8,000 oedd ar gael.

Dywedodd y Gweinidog Diwydiant Nadhim Zahawi wrth Newsnight nos Fercher bod y 12,000 yn cynnwys y sawl yr oedd y Llywodraeth eisoes wedi eu harchebu, gydag 8,000 eisoes yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Dwi’n meddwl fod yr holl Dŷ yn deall fod yno anawsterau penodol gyda’r sawl sydd ddim ar gynlluniau PAYE,” meddai Boris Johnson wrth y Senedd cyn iddi ddod i ben.

“Rydym yn cyflwyno pecyn i sicrhau fod pawb yn derbyn y gefnogaeth maen nhw ei angen.

“Alla i ddim addo wrth y Tŷ y byddwn ni’n gallu goroesi’r argyfwng yma heb unrhyw fath o galedi.

“Fe wnawn ni bopeth yn ein gallu i gefnogi’r hunangyflogedig, fel yr ydym eisoes yn helpu pob un person cyflogedig yn y wlad.”