Mae’r tro pedol ar ostwng nifer aelodau seneddol San Steffan o 650 i 600 wedi cael ei groesawu.

Roedd disgwyl y byddai etholaethau’n cael eu hailddylunio ond mae Brexit yn golygu bod gan aelodau seneddol fwy o waith i’w wneud nag o’r blaen.

Roedd ymgyrchwyr yn rhybuddio y byddai gostwng y nifer heb roi uchafswm ar nifer y gweinidogion yn y llywodraeth yn golygu rhoi mwy o rym yn nwylo’r Cabinet a lleihau faint o graffu fyddai’n digwydd o’r meinciau cefn.

Fe fu’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol yn rhybuddio y byddai’n “rhagrithiol” gostwng nifer yr aelodau seneddol tra’n cynyddu nifer yr Arglwyddi, sydd heb eu hethol.

Pe bai’r cynllun wedi mynd yn ei flaen, byddai 23% o aelodau seneddol a 45% o aelodau seneddol Ceidwadol wedi cael eu gorfodi i gefnogi’r llywodraeth mewn pleidleisiau – y ganran uchaf erioed.

‘Tanseilio lleisiau’r bobol gyffredin’

“Byddai’r cynlluniau i dorri ar gynrychioliaeth pleidleiswyr yn Nhŷ’r Cyffredin wedi tanseilio lleisiau pobol gyffredin yn y Senedd a brifo’r craffu ar ddemocratiaeth,” meddai Darren Hughes, prif weithredwr y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol.

“Roedd y cynlluniau bob amser yn ymddangos yn debycach i gipio grym na cham diffuant i wella’r ffordd mae Tŷ’r Cyffredin yn gweithredu.

“Felly mae hon yn fuddugoliaeth fach ond yn un i’w chroesawu ar gyfer aelodau’r meinciau cefn a phleidleiswyr.”

Mae’n dweud bod angen canolbwyntio ar ôl ymdrin â’r coronafeirws ar sut mae democratiaeth yn cael ei gweithredu, faint o aelodau seneddol sydd yn San Steffan, sut mae ffiniau’n cael eu llunio a sut mae prydles yn gweithio.

Mae’n dweud ei bod hi’n bryd cael “democratiaeth go iawn”, ac mae hynny’n golygu torri ar nifer yr Arglwyddi o’r 800 presennol.

“Pan ddaw i leihau maint y siambr, yr Arglwyddi heb eu hethol yw’r rhai lle mae gweiddi allan am ddiwygio,” meddai wedyn.