Mae’r bobl sydd yn anwybyddu cyngor i ymbellhau’n gymdeithasol ac yn peidio cadw pellter o ddau fetr yn “hynod o hunanol”, meddai Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, Matt Hancock.

Daeth ei sylwadau wrth iddo awgrymu y bydd mesurau pellach yn cael eu cymryd,  gan fod ei Lywodraeth yn fodlon “gweithredu mwy” er mwyn  stopio’r coronafeirws rhag lledaenu.

Dros y penwythnos, daeth lluniau i’r amlwg o dyrfaoedd yn ymweld ag ardaloedd agored ar hyd a lled Prydain.

Er bod Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod yn ddiogel i ymarfer corff ond i bobl gadw pellter o ddau fetr oddi wrth ei gilydd, mae’r Blaid Lafur yn galw am “orfodi pellhau cymdeithasol”.

“Hynod o hunanol”

Wrth siarad ar BBC Radio 4, dywedodd Matt Hancock nad oedd yn deall pam nad oedd pobl yn gwrando ar y cyngor.

“Mae’n hynod o hunanol” meddai. “Mae’r GIG yn gwneud popeth posibl i baratoi i’r firws ledaenu.”

Pan ofynnwyd iddo a yw’r Cabinet yn ystyried “lockdown” llymach pan fyddan nhw’n cwrdd heddiw, (Mawrth 23), dywedodd Matt Hancock nad oedd “dim yn amhosib. Wrth gwrs, rydyn ni’n edrych i weld beth mae gwledydd Ewropeaidd eraill yn ei wneud.”

Mi fydd gweinidogion Stryd Downing yn edrych ar ddata i weld faint o gysylltiad cymdeithasol sydd dal yn digwydd ac os yw’r wybodaeth yna’n dangos nad ydi pobl wedi stopio yna, yn ôl Matt Hancock fe fydd yn rhaid iddyn nhw gymryd mesurau pellach, a hynny o heddiw ymlaen pe byddai’n rhaid.

“Ar ôl penwythnos arall o gymhlethdod cyhoeddus amlwg,” meddai Llefarydd Iechyd Llafur yn San Steffan, Jonathan Ashworth, “a diffyg cydweithrediad ar hyd a lled y wlad ar y mater o bellhau cymdeithasol, a’r diffyg  gwrando ar rybuddion gwyddonol, a sôn am weithwyr meddygol dewr yn mynd i’r gwaith fel ‘ŵyn i’r lladd-dy’ gydag offer gwarchodol annigonol, mae’n rhaid i rywbeth newid.”

“Mae gwledydd eraill wedi cymryd camau llawer ehangach ar fesurau pellhau cymdeithasol. Rydym yn galw ar y Llywodraeth nawr i symud tuag at orfodi pellhau cymdeithasol a diogelu cymdeithasol pellach ar fyrder.”

Profi gweithwyr meddygol

Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth  y DU yn gobeithio hefyd y bydd profi gweithwyr meddygol am Covid-19 yn dechrau “cyn gynted â phosib.”

Dywedodd fod y Llywodraeth wedi cadarnhau fod pob prif ysbyty wedi derbyn offer gwarchodol personol sydd ei angen ar staff a bod llinell frys ar gael i weithwyr y GIG ei alw pe bai prinder yn yr ardal.

“Rydw i’n gweithio ddydd a nos yn ceisio cael yr offer gwarchodol yma i’r rheng flaen” meddai Matt Hancock.

“Mae gennym ni ddigon ohono, ond wrth gwrs rydyn ni angen mwy ac rydyn ni yn prynu mwy hefyd.

“Ond y prif beth yw ei ddosbarthu i’r rheng flaen.”

Yn y cyfamser, mae doctoriaid a nyrsys resbiradol ym Melfast wedi cyhoeddi fideo ar Twitter yn dweud fod angen i bobl aros adref i achub bywydau.

Dywedodd un doctor yno ei bod wedi bod yn feddyg ers 35 mlynedd.

“Mae ofn arnom ni…” meddai , “plîs arhoswch adref.”