Mae Llywodraeth Prydain yn cael eu rhybuddio fod angen gwarchod hawliau gweithwyr hunangyflogedig, wrth i nifer cynyddol ohonyn nhw golli eu bywoliaeth yn sgil y coronafeirws.

Yn ôl Siambr Fasnach Prydain, mae bywoliaeth miloedd o weithwyr hunangyflogedig yn “diflannu”, ac maen nhw’n galw ar weinidogion i gynnig cefnogaeth iddyn nhw, yn dilyn cyhoeddiad gan y Canghellor Rishi Sunak yr wythnos ddiwethaf y byddai gweithwyr cyflogedig yn derbyn cymorth.

‘Ychydig iawn o sicrwydd’

“Mae siambrau ledled y Deyrnas Unedig yn clywed gan filoedd o fasnachwyr unigol y mae’r mesurau yr wythnos ddiwethaf yn cynnig ychydig iawn o sicrwydd iddyn nhw,” meddai Dr Adam Marshall, cyfarwyddwr cyffredinol Siambr Fasnach Prydain.

“Tra ein bod ni’n deall y cymhlethdod cysylltiedig, mae yna bum miliwn o bobol hunangyflogedig sydd angen cymorth tebyg ei raddfa a sgôp i’r hyn a gafodd ei gyflwyno ar gyfer cwmnïau mawr dros y dyddiau diwethaf.

“Byddwn ni’n cydweithio’n agos â gweinidogion i ddod o hyd i ffordd o gynnig cefnogaeth i bobol hunangyflogedig ac i sicrhau bod y mesurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer busnesau mwy yn cyrraedd y rheng flaen yn gyflym.”

Ymateb undebau

Un o’r undebau sy’n galw am sicrhau cefnogaeth i weithwyr hunangyflogedig yw’r NUJ, yr undeb sy’n cynrychioli newyddiadurwyr.

“Rhaid i weithwyr llawrydd beidio â chael eu hanghofio yn ystod ymdrechion y Llywodraeth i warchod pobol sy’n gweithio,” meddai Pamela Morton ar ran yr undeb.

“Eisoes, mae ein haelodau’n gweld gwaith yn diflannu ac maen nhw’n wynebu dioddef caledi go iawn.

“Rhaid i’r Canghellor gamu i fyny gyda phecyn ystyrlon a fydd yn galluogi ein haelodau i weithio neu i’w hariannu nhw yn ystod cyfnod pan nad oes ganddyn nhw waith.

“Rydym yn gweithio’n ddiflino er mwyn sicrhau cytundeb go iawn i’n haelodau yn ystod trafodaethau â gweinidogion a swyddogion.”