Mae Nicola Sturgeon wedi beirniadu tafarndai sy’n dewis peidio â chau fel rhan o’r mesurau i geisio mynd i’r afael â’r coronafeirws, gan ddweud eu bod nhw’n peryglu bywydau.

Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai ymhell dros 2,000 o bobol farw os yw pobol yn anwybyddu’r cyngor i aros yn eu cartrefi.

Ac mae Nicola Sturgeon yn dweud bod “lleiafrif bach” o fusnesau’n dewis peidio â chydymffurfio â’u cyngor.

“Os yw hynny’n wir, peidiwch â chamddeall… mae bywydau mewn perygl o ganlyniad,” meddai.

“Plis gwnewch y peth iawn nawr.”

Cyngor meddygol

Mae’r Athro Jason Leitch, Cyfarwyddwr Clinigol yr Alban, yn dweud bod “angen gwneud dewisiadau ymbellháu cymdeithasol ac ynysu llym iawn”.

“Dydyn ni wir ddim yn chwarae o gwmpas erbyn hyn,” meddai wrth y Sunday Mail.

“Er mwyn gwarchod unigolion a phobol fregus yn y gymdeithas, mae angen i ni wneud dewisiadau ymbellháu cymdeithasol ac ynysu llym iawn.

“Mae’r prif ymgynghorydd gwyddonol yn Lloegr wedi dweud ei fod e’n credu y byddai 20,000 o farwolaethau ar draws y Deyrnas Unedig yn ddeilliant da.

“Yn yr Alban, byddai hynny’n ryw 2,000 ond mae’r sefyllfa waethaf lawer iawn gwaeth na hynny.

“Mae angen i bobol gymryd y cyngor sy’n cael eu rhoi iddyn nhw’n ddifrifol iawn.”

Ymbellháu ac ynysu

Mae pobol sydd â symptomau’r feirws a phobol fregus yn cael eu cynghori i aros yn eu cartrefi am hyd at bythefnos.

Mae pobol sydd â chyflyrau iechyd, pobol dros 70 oed a merched beichiog yn cael eu cynghori i gadw pellter o’r gymdeithas am hyd at dri mis.

Ond mae’n dweud y dylai pawb arall “gadw pellter cymdeithasol cymaint â phosib”, gan egluro bod hynny’n golygu peidio â mynd i dafarndai a chlybiau cymdeithasol ac osgoi partïon a chiniawau.

“Mae’n beth ofnadwy a does neb ohonom yn ei wneud e’n ysgafn ond ei ddiben yw gwarchod pobol a fydd yn cael y feirws yma oherwydd mae’n afiechyd go iawn.”