“Rhag eich cywilydd” yw’r neges i bobol sy’n prynu gormod o nwyddau mewn panig yn sgil y coronafeirws.

Mae pryderon fod pobol yn achosi prinder nwyddau sy’n hanfodol i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd wrth fynd allan i bentyrru nwyddau o archfarchnadoedd.

Mae’r weithred wedi arwain at sawl archfarchnad yn addasu eu polisi gwerthu.

Mae cynhyrchwyr wedi gorfod cynyddu eu cynhyrchiant o 50% er mwyn ymateb i’r galw eithriadol.

Yn ôl George Eustice, mae digon o fwyd a nwyddau eraill i bawb heb fod angen pentyrru, ac mae gweithwyr iechyd yn mynd i siopa ac yn dod ar draws silffoedd gwag.

“Byddwch yn gyfrifol wrth siopa a meddyliwch am eraill,” meddai.

‘Cywilydd’

Ond mae Stephen Powis, cyfarwyddwr meddygol y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, wedi cyhoeddi neges ychydig yn gryfach.

Fe fu’n tynnu sylw at fideo sy’n dangos nyrs yn ei dagrau wrth gyrraedd y siop ac yn methu dod o hyd i unrhyw fwyd ar ddiwedd shifft hir yn yr ysbyty.

“Yn blwmp ac yn blaen, dylen ni oll gywilyddio fod yn rhaid i hyn ddigwydd,” meddai.

“Mae’n annerbyniol.

“Dyma’r union bobol sydd eu hangen arnon ni i ofalu amdanon ni neu ein hanwyliaid yn yr wythnosau i ddod.

“Mae’n hanfodol fod ein gweithwyr iechyd yn gallu cael mynediad i’r hyn sydd ei angen arnyn nhw, drwy beidio â phentyrru a siopa’n hunanol.”