Bydd cwmni John Lewis yn cau ei holl siopau ar ddiwedd y dydd ar ddydd Llun (Mawrth 23).

Dywed y cwmni eu bod nhw wedi gwneud y “penderfyniad anodd” i gau ei 50 o siopau o ganlyniad i ymlediad y coronafeirws.

Mae’r cwmni hefyd yn gyfrifol am archfarchnad Waitrose.

Ond bydd John Lewis a Waitrose yn parhau i fasnachu ar y we.