Mae Marks & Spencer wedi cyhoeddi eu bod nhw’n rhewi codiadau cyflog am y tro ac wedi canslo unrhyw wariant ychwanegol wrth i’r cwmni rybuddio bod eu busnes dillad a nwyddau i’r cartref yn debygol o ddioddef ergyd sylweddol yn sgil y coronafeirws.

Mae’r cwmni siopau wedi rhybuddio bod eu helw cyn treth yn debygol o fod yn is na’r rhagolygon o £440m-£450m oherwydd y gostyngiad mewn gwerthiant dillad a nwyddau i’r cartref.

Dywedodd Marks & Spencer bod eu busnes bwyd wedi perfformio’n well wrth i gwsmeriaid brynu mwy o fwyd ond, gan fod ei ffocws ar fwydydd ffres, mae cwsmeriaid yn troi at siopau eraill ar gyfer bwydydd sy’n para’n hirach.

Yn ôl y bwrdd dyw’r cwmni ddim yn disgwyl talu difidend eleni. Fe fydd yn torri gwariant i £80m o gyllideb o £400m ac yn ceisio tyfu’r busnes ar-lein.

Mewn datganiad dywedodd M&S eu bod nhw’n parhau’n “hyderus” am ddyfodol y busnes ond eu bod yn disgwyl y bydd “effaith sylweddol” ar yr adrannau dillad, nwyddau i’r cartref a busnesau rhyngwladol dros y 12 mis nesaf.