Mae heddlu Gogledd Iwerddon yn amau ymosodiad parafilwrol ar ôl i ddyn yn ei 30au gael ei saethu yn ei goes yn ninas Derry.

Dywed yr heddlu bod tri dyn â masgiau wedi cymryd rhan yn yr ymosodiad yn ardal Creggan o’r ddinas neithiwr (nos Fercher).

Yn ôl y Ditectif Sarjant Gavin McLaughlin, fe ddigwyddodd yr ymosodiad tua 11 pm.

“Mae pob arwydd mai saethu parafilwrol sydd wedi digwydd yma,” meddai.

“Roedd yn ymosodiad bwriadol, mileinig a chiaidd, sy’n gwbl annerbyniol i gymdeithas ein dyddiau ni.”

Aed â’r dyn i’r ysbyty am driniaeth.