Fe fydd llai o drenau tanddaearol a bysiau yn rhedeg yn Llundain o heddiw ymlaen wrth i’r Llywodraeth ystyried mesurau llymach i rwystro’r coronafeirws rhag lledaenu yno.

Dywed Transport for London, sy’n gyfrifol am y bysiau a’r tiwb, eu bod yn rhedeg llai o wasanaethau ond yn cadw’n agored er mwyn galluogi gweithwyr allweddol i wneud teithiau hanfodol.

Fe fydd llawer o’r gorsafoedd yn cau, gan gynnwys mwyafrif y rheini sydd ag un un llinell yn unig, lle na ellir newid trenau i ran arall o’r rhwydwaith.

Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer dim byd ond teithiau hanfodol.