Bydd achosion llys yn cael eu gohirio fel rhan o’r ymdrechion Llywodraeth Prydain i leihau ymlediad y coronafirws.

Cyhoeddodd yr Arglwydd Burnett, y barnwr uchaf yng Nghymru a Lloegr, na ddylai unrhyw achos Llys y Goron newydd ddechrau oni bai bod disgwyl iddo bara am dri diwrnod neu lai .

O ganlyniad, bydd achosion sy’n fwy na thridiau oedd fod i ddechrau cyn diwedd mis Ebrill yn cael eu gohirio.

Daeth y cyhoeddiad ar ôl i bwysau gael ei roi ar y Llywodraeth i egluro ei strategaeth ar gyfer y llysoedd, ynghanol pryderon cynyddol am effaith y coronafeirws Covid-19 ar y llysoedd.

Yn gynharach wythnos yma, galwodd sefydliadau sy’n cynrychioli cyfreithwyr am newidiadau i achosion llys.

Galw ar Lys y Goron i ddefnyddio mwy o dechnoleg fideo

Mae’r llysoedd yn cael eu hannog i wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg wrth gynnal achosion.

“Dylai gwrandawiadau llys gael eu cyfyngu i’r rhai sy’n cael eu hystyried yn hanfodol am y tro, gydag eraill yn defnyddio cysylltiadau ffôn a fideo lle bo hynny’n briodol,” meddai Amanda Pinto QC, Cadeirydd Cymdeithas y Bar Troseddol.

Dywedodd Llys y Goron y byddai unrhyw dreialon sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn parhau, yn y gobaith y gallent gael eu cwblhau.