Mae’r cwmni ffasiwn Laura Ashley wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr gan roi 2,700 o swyddi mewn perygl.

Daw hyn ar ôl i drafodaethau i achub y cwmni gael eu gohirio wedi dyfodiad y coronafeirws.

Roedd y cwmni wedi bod mewn trafodaethau gyda rhanddeiliaid am ail-ariannu, ond maen nhw’n dweud bod “adolygiad o’u llif ariannol a’r ansicrwydd cynyddol” yn golygu na fyddan nhw’n medru sicrhau’r cyllid mewn digon o amser.

Dywed Laura Ashley eu bod wedi gweld cynnydd mewn gwerthiant yn yr wythnosau diwethaf, gyda gwerthiant i fyny 24% o flwyddyn i flwyddyn am y saith wythnos hyd at Mawrth 13.

Er hyn, dywed fod dyfodiad y feirws wedi cael “effaith uniongyrchol a sylweddol ar fasnachu, ac mae’r datblygiadau hyd yn hyn yn awgrymu y bydd hyn yn sefyllfa genedlaethol barhaus”.

Mae’r cwmni yn rheoli 150 o siopau yng ngwledydd Prydain ac yn cyflogi tua 2,700 o weithwyr.