Mae disgwyl i Boris Johnson wneud cyhoeddiad ynglŷn â’r coronafeirws yn dilyn cyfarfod gyda gweinidogion a swyddogion i ystyried mesurau llymach i fynd i’r afael a’r haint.

Fe allai gynnwys canslo digwyddiadau mawr a chyngor i’r henoed ynysu eu hunain am hyd at bedwar mis.

Fe fydd y Prif Weinidog yn cadeirio cyfarfod o’r pwyllgor argyfyngau Cobra prynhawn ma (dydd Llun, Mawrth 16).

Mae Downing Street wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal cynhadledd newyddion dyddiol o hyn ymlaen er mwyn rhoi gwybod i’r cyhoedd beth yw’r diweddara ynglŷn â Covid-19. Mae’n dilyn beirniadaeth ynglŷn â diffyg tryloywder.

Daw hyn yn sgil adroddiadau ym mhapur y Guardian bod Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi rhybuddio penaethiaid iechyd y gallai’r coronafeirws barhau tan y gwanwyn 2021 ac y gallai hyd at 7.9 miliwn o bobl gael triniaeth ysbyty.

Wrth i nifer y meirw yn y Deyrnas Unedig gynyddu i 35 ddydd Sul (Mawrth 15) dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, y gallai pobl dros 70 oed orfod aros yn eu cartrefi am hyd at bedwar mis o fewn yr wythnosau nesaf.

Mae disgwyl i Boris Johnson hefyd ofyn i wneuthurwyr yng ngwledydd Prydain gynhyrchu offer meddygol angenrheidiol i’r Gwasanaeth Iechyd.

Ac fe fydd yn trafod gydag arweinwyr gwledydd y G7, gan gynnwys yr Arlywydd Donald Trump a Changhellor yr Almaen Angela Merkel, i drafod ymateb ar y cyd i’r pandemig.