Mae Jeremy Corbyn wedi gwrthod dweud a fyddai’n barod i ynysu ei hun, yn unol â chamau y gallai Llywodraeth Prydain eu cymryd fel rhan o’r frwydr yn erbyn coronavirus.

Ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r llywodraeth gyhoeddi cyfres o fesurau, a’r rheiny’n cynnwys gorfodi pobol dros 70 oed i ynysu eu hunain.

Mae arweinydd Llafur eisoes yn 70 oed.

“Dw i’n gwneud beth mae gofyn i bawb arall ei wneud, sef golchi dwylo’n gyson, a sicrhau bod pobol yn y cyfarfodydd dw i’n mynd iddyn nhw’n cael eu gwahanu o gryn bellter.

“Mae ymhlith yr holl fesurau ymarferol y gallwn ni eu cymryd.”

Beirniadu Llywodraeth Prydain

“Rydyn ni’n dioddef pandemig,” meddai Jeremy Corbyn wedyn, wrth feirniadu Llywodraeth Prydain.

“Mae’n ddifrifol iawn, iawn ac mae’r Llywodraeth fel pe baen nhw’n hunanfoddhaus ac ar ei hôl hi ar hyn.

“Maen nhw’n rhoi cyngor sy’n wahanol i’r hyn sy’n cael ei roi ym mron pob gwlad Ewropeaidd arall.

“Mae hyn yn rhywbeth rhyfedd.”