Mae Lisa Nandy, un o’r ymgeiswyr yn y ras i arwain y Blaid Lafur, yn dweud bod ymateb Llywodraeth Prydain i coronavirus yn “siambls”.

Mae gweinidogion Llywodraeth Prydain dan y lach am “guddio” yn dilyn tro pedol ar wahardd cynulliadau mawr, ac adroddiadau y gallai’r heddlu a swyddogion mewnfudo ddwyn unrhyw un i’r ddalfa am beidio ag ynysu eu hunain.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC y byddai Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, hyd yn oed yn cyfaddef fod yr ymateb dros y 48 awr diwethaf yn “siambls”.

“Mae hyn yn achosi pryder difrifol ymhlith y cyhoedd,” meddai.

“Dydy pobol jyst ddim yn gwybod beth i’w wneud am y gorau.

“Does dim rheswm i fynd i banig ond mae angen llawer mwy  wybodaeth arnon ni gan y llywodraeth.

“Mae hyn yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac felly mae’n rhaid i’r cyhoedd allu ymddiried yn y strategaeth mae’r llywodraeth yn ei dilyn.”