Mae cwmni awyrennau Jet2 wedi canslo’u holl deithiau o wledydd Prydain i Sbaen a’i hynysoedd.
Daw’r cyhoeddiad wrth i coronavirus ledu ar draws y byd.
Mae’n effeithio ar naw maes awyr yng ngwledydd Prydain – Stansted, Birmingham, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Manceinion, Leeds/Bradford, Newcastle, Belffast, Caeredin a Glasgow.
Yn ogystal â Sbaen, maen nhw’n cludo teithwyr i’r Ynysoedd Balearaidd ac Ynysoedd y Cŵn.
Dywed y cwmni mewn datganiad fod trefniadau ar y gweill i ddychwelyd teithwyr o wledydd Prydain sydd yn Sbaen ac ar yr ynysoedd ar hyn o bryd.