Bydd economi Prydain yn wannach yn sgil Brexit, hyd yn oed os gwnaiff y Prif Weinidog Boris Johnson lwyddo i gael cytundeb fasnach rydd gyda Brwsel, yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR).

Maen nhw wedi rhybuddio y bydd Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) i lawr 4% yn y 15 mlynedd nesaf o’i gymharu â phe bai Prydain wedi aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Ers y refferendwm yn 2016, mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dweud bod allgynnyrch wedi gostwng 2%.

Y prif reswm dros dwf cynhyrchaeth gwannach yw diffyg buddsoddiad busnes, ac adnoddau’n cael eu gwyro oddi wrth baratoi am ganlyniadau Brexit.

Dywed y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol bod buddsoddiad busnes “prin wedi tyfu” ers y refferendwm lle y dylai wedi codi 20% erbyn hyn.

Mae disgwyl i’r diffygion fod yn gudd nes bod manylion perthynas fasnach Prydain â’r Undeb Ewropeaidd a bod ansicrwydd busnes yn gostwng.

Yn erbyn hyn, fodd bynnag, dywed y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd “effaith groes” y rhwystrau masnach uwch yn codi dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt.