Mae Jeremy Corbyn wedi beirniadu Cyllideb y Canghellor Rishi Sunak, ond mae’n dweud ei fod e’n croesawu’r cynllun tri cham i fynd i’r afael â coronavirus.

Fel rhan o’i Gyllideb, cyhoeddodd Rishi Sunak gyfres o fesurau i fynd i’r afael â’r firws sy’n lledu ar draws Ewrop.

Daw’r Gyllideb lai na mis ers i’r Canghellor ddod i’r swydd yn dilyn ymddiswyddiad ei ragflaenydd Sajid Javid tros ymyrraeth Dominic Cummings, prif ymgynghorydd y prif weinidog Boris Johnson.

“Ymddiswyddodd y Canghellor diwethaf gan ddweud na allai unrhyw Ganghellor â hunanbarch dderbyn cael ei reoli gan ymgynghorwyr Rhif 10, fe dderbyniodd y Canghellor newydd y rheolaeth honno a nawr, mae e wedi cyflwyno Cyllideb 27 diwrnod yn unig ar ôl derbyn y swydd,” meddai arweinydd y Blaid Lafur.

Fe wnaeth e “longyfarch” Dominic Cummings ar lunio’r Gyllideb “mor gyflym”, ond fe ddywedodd fod ei gynnwys yn destun “siom”.

“Oherwydd beth bynnag maen nhw’n ei ddweud, fydd y Blaid Geidwadol fyth yn sefyll i fyny dros gymunedau dosbarth gweithiol,” meddai.

“Byddan nhw bob amser yn rhoi buddiannau eu ffrindiau cyfoethog yn gyntaf.”

Mae’n dweud bod y Gyllideb yn dangos “cyfle wedi’i golli, diffyg uchelgais a siom o’r mwyaf”.

‘Llymder ddim wedi gweithio’

Ymhellach, dywed Jeremy Corbyn fod y Gyllideb yn dangos nad yw’r polisi llymder wedi llwyddo.

“Rhaid credu bod llymder ar ben, ond dyw e ddim yn wir.”

Ac mae’n dweud bod datganiad y Ceidwadwyr ynghylch y cynnydd mwyaf erioed yng ngwariant cyhoeddus yn “cuddio” elfennau eraill o’r Gyllideb.

“Ymhlith yr holl heip, mae e’n honni bod heddiw’n nodi’r buddsoddiad cyfalaf mwyaf ers y 1950au, ond ymdrech i guddio yw hyn mewn gwirionedd.

“Roedd y Gyllideb heddiw wedi ei hysbysebu fel trobwynt, cyfle i gyflawni, yn enwedig o ran addewidion a gafodd eu gwneud i gymunedau dosbarth gweithiol yn yr etholiad cyffredinol.

“Ond dyw e ddim yn dod yn agos.

“Y realiti yw fod hon yn Gyllideb sy’n cyfaddefiad o fethiant – cyfaddefiad fod llymder wedi bod yn arbrawf sydd wedi methu.

“Wnaeth e ddim datrys ein problemau economaidd ond fe wnaeth eu gwaethygu nhw.

“Dydy’r mesurau heddiw ddim yn mynd yn agos at wyrdroi’r niwed sydd wedi’i wneud i’n gwlad.”