Doedd dim twf yn yr economi ym mis Ionawr er gwaethaf rhagfynegiadau y byddai’n tyfu yn dilyn blwyddyn anodd a ddaeth i ben gydag etholiad cyffredinol,  yn ôl ffigyrau newydd.

Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol nad yw Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) wedi newid, ar ôl tyfu 0.3% fis Rhagfyr.

Cafodd y ffigyrau eu cyhoeddi ar drothwy Cyllideb gyntaf y Canghellor Rishi Sunak gan ddiystyru gobeithion fod yr economi am wella yn dilyn buddugoliaeth glir i’r Ceidwadwyr yn etholiad mis Rhagfyr, a ddaeth ag ansicrwydd gwleidyddol i ben.

Roedd dadansoddwyr wedi darogan y byddai’r economi’n tyfu 0.2% fis Ionawr, yn ôl consensws a gafodd ei gasglu gan Pantheon Macroeconomics.

Arhosodd Cynnyrch Mewnwladol Crynswth yn wastad yn y tri mis cyn Ionawr hefyd.

Mae’r canlyniad yn “eithaf siomedig wedi i arolygiadau gyda chwsmeriaid a busnesau awgrymu y byddai ychydig o gynnydd ôl-etholiad ym misoedd cynnar 2020,” meddai John Hawksworth prif economegydd PriceWaterhouseCoopers.

Effaith coronavirus

Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod twf Cynnyrch Mewnwladol Crynswth wedi arafu yn chwarter olaf 2019, yn dilyn codiad o 0.5% yn y chwarter cynt.

Ond dyw ffigurau Ionawr ddim yn ystyried effaith coronavirus ar economi Prydain.

“Mae’r hen ddata nawr yn cael ei orchfygu gan effaith economaidd Covid-19 ac mae’r ymateb polisi i hyn yn cael ei gyhoeddi heddiw,” meddai John Hawksworth.

“Dylai’r ymateb yna helpu i leddfu’r cwymp mewn Cynnyrch Mewnwladol Crynswth yn sgil effaith Covid-19 dros y misoedd nesaf yn ogystal â helpu i adfer yr economi yn hwyrach yn y flwyddyn.”

Dechreuodd yr achosion cyntaf o coronavirus yn Tsieina fis Rhagfyr ond cymerodd hi wythnosau cyn i’r afiechyd ddechrau effeithio’r economi.

Gan fod firws wedi cael cymaint o effaith ar yr economi, mae Banc Lloegr wedi gostwng ei brif gyfradd llog o 0.75% i 0.25%.