Mae’r Canghellor Rishi Sunak yn addo buddsoddi “symiau hanesyddol” mewn isadeiledd ac arloesedd yn ei Gyllideb, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Mawrth 11).

Dywed y Trysorlys y bydd cannoedd o biliynau o bunnoedd yn cael ei wario ar lonydd, rheilffyrdd, band llydan a thai.

Mae’n debyg y gall y ffigwr hwn fod yn fwy na £600bn dros y bum mlynedd nesaf.

Ond mae disgwyl cryn sylw i coronavirus hefyd, gydag arbenigwyr yn rhybuddio bod gwaeth eto i ddod.

“Rydym wedi gwrando a nawr fe wnawn gadw’n haddewid i wella’r Deyrnas Unedig, gan sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd, lle bynnag maen nhw’n byw,” meddai Rishi Sunak.

Llai na mis i mewn i’r swydd, mae Rishi Sunak yn datgelu ei gynllun ariannol wedi i’r Mynegai’r 100 cwmni (FTSE 100) weld ei ddiwrnod gwaethaf ers argyfwng ariannol 2008 ac ymysg pryderon coronavirus.

Gohirio strategaeth

Roedd y Llywodraeth wedi addo datgelu eu Strategaeth Isadeiledd Gwladol gwerth £100bn heddiw, ond mae hynny’n cael ei ohirio am sawl mis.

Roedd y cynllun i fod i osod cynlluniau trafnidiaeth wrth weithio tuag at allyriad carbon net-sero erbyn 2050.

Ond mae disgwyl i’r Gyllideb gynnwys buddsoddiad o £5bn tuag at fand llydan cyflymach ar draws y Deyrnas Unedig.

Bydd £5bn pellach yn mynd tuag at fenthyciadau er mwyn rhoi hwb i allforion ar ôl Brexit.

Mae cronfa amddiffynfeydd rhag llifogydd am gael ei dyblu i £5.3bn yn dilyn y dinistr a adawyd gan stormydd diweddar.

Ymateb Llafur

Dyw John McDonnell, canghellor yr wrthblaid, ddim yn hapus â’r Gyllideb, fodd bynnag.

“Mae Rishi Sunak yn gofyn i ni ei longyfarch am adeiladu’n rhannol ar yr hyn mae’r Ceidwadwyr wedi ei ddinistrio dros y 10 mlynedd ddiwethaf,” meddai.