Mae llys yr Old Bailey wedi clywed bod llofruddiaeth y plismon Andrew Harper “yn hollol ddi-synnwyr”, a’i fod e wedi marw “mewn amgylchiadau brawychus”.

Cafodd y dyn 28 oed ei lusgo gerfydd ei draed am filltir y tu ôl i gar ar ôl ymateb i alwad am feic pedair olwyn yn cael ei ddwyn o bentref yn Berkshire fis Awst y llynedd.

Clywodd y llys fod tyst i’r digwyddiad yn credu  mai carw oedd wedi’i glymu i’r cerbyd cyn sylwedoli mai’r plismon oedd e.

Mae Henry Long, 18, a dau lanc 17 oed nad oes modd eu henwi, yn gwadu llofruddio.

Cefndir

Clywodd y llys fod Andrew Harper wedi’i glymu wrth ei goesau i’r car oedd yn cael ei yrru ar gyflymdra uchel ar hyd lonydd cefn gwlad.

Cafodd ei lusgo am fwy na milltir, a’i gorff yn cael ei daflu o ochr i ochr.

Collodd e ddarnau o’i ddillad yn ystod y daith.

Pan lwyddodd e i ddod yn rhydd, bu farw ar ochr y ffordd o ganlyniad i’w anafiadau.

Mae Henry Long wedi pledio’n euog i ddynladdiad, ond mae’r ddau arall yn gwadu’r cyhuddiad hwnnw.

Mae’r tri wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ddwyn beic.

Mae’r erlynwyr yn dadlau bod y tri wedi cynllunio’r ymosodiad.

Mae’r achos yn parhau.