Bydd Aelodau Seneddol yn derbyn codiad cyflog o 3.1% o fis Ebrill ymlaen, meddai’r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA).

Bydd y codiad, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, Mawrth 5) yn golygu bod tâl Aelodau Seneddol yn codi o £79,468 i £81,932 o Ebrill 1.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol i addasu cyflog Aelodau Seneddol ar yr un raddfa ag enillion y sector gyhoeddus.

Roedd newyddion da i staff Aelodau Seneddol hefyd, gyda chynnydd yn y gyllideb ar eu cyfer.

Dywed Cadeirydd dros dro’r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol, Richard Lloyd: “Gwelodd ein hadolygiad fod swyddfeydd Aelodau Seneddol o dan bwysau mawr, gyda staff yn gwneud gwaith achos anodd gydag etholwyr ar amrywiaeth eang o broblemau.

“Yn aml, roedd yno drosiant staff yn uchel, gyda lefelau cyflog yn is na mewn swyddi eraill, ar sail tystiolaeth yr adolygiad.

“Mewn nifer o swyddfeydd, doedd ychydig neu ddim arian yn cael ei wario ar hyfforddi staff, lles a datblygiad.

“O ganlyniad, rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i gyllidebau staffio ASau yn 2020-21 ar gyfer hyfforddiant, iechyd a diogelwch staff, a newidiadau i fandiau cyflog a disgrifiadau swyddi staff ASau fel eu bod yn cyfateb i’r swyddi maen nhw’n eu gwneud mewn gwirionedd.”