Mae’r Aelod Seneddol Llafur Tulip Siddiq wedi trydar am y sôn y bydd Nazanin Zaghari-Ratcliffe yn cael ei rhyddhau o’r carchar yn Iran dros dro.

Daw’r sïon yn sgil adroddiadau ei bod hi wedi cael ei tharo’n wael a’i bod hi, o bosib, yn dioddef o coronavirus, er nad yw hi wedi cael prawf hyd yn hyn.

Mae 77 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r firws yn Iran hyd yn hyn.

Cafodd Nazanin Zaghari-Ratcliffe ei dedfrydu yn 2017 i bum mlynedd dan glo o ganlyniad i honiadau iddi fod yn rhan o gynllwyn i danseilio llywodraeth Iran. Mae hi’n gwadu’n llwyr yr honiadau yn ei herbyn.

Cafodd ei harestio yn 2016 yn ystod gwyliau lle’r oedd hi wedi bod yn dangos ei merch fach newydd, Gabriella, i’w rhieni.

Ers ei charcharu, mae hi wedi ymprydio mewn protest yn erbyn y cyhuddiad ddwy waith, wedi cael ei phen-blwydd yn 40 oed ac yn 2018, cafodd ei rhyddhau dros dro ac fe aeth i aros gyda’i theulu ar gyrion dinas Tehran.

Y gobaith bryd hynny hefyd oedd y byddai’n cael aros allan am gyfnod hirach neu gael eu rhyddhau, ond nid felly y bu.

Ym mis Gorffennaf 2019, cludwyd Nazanin i Uned Iechyd Meddwl yn Iran.

‘Rydyn ni wedi bod yma o’r blaen’

“Mae newyddion gan Lysgennad Iran y gall Nazanin Zaghari-Ratcliffe o fy etholaeth gael ei rhyddhau am seibiant heddiw neu yfory o’r carchar yn Iran,” meddai Tulip Siddiq, aelod seneddol Llafur yn Hampstead a Kilburn.

“Os yw hyn yn wir, bydd Nazanin yn croesawu gadael carchar Evin, ond rydyn ni wedi bod yma o’r blaen.

“Os yw’r seibiant yma’n digwydd, mae’n reidrwydd ar lywodraeth Prydain i’w wneud yn barhaol, a pheidio gadael iddi gael ei defnyddio fel bargen yn yr wythnosau sydd i ddod.”