Mae disgwyl i Boris Johnson gyhoeddi cynllun y Llywodraeth  heddiw (Mawrth 3) i fynd i’r afael â’r coronavirus wrth i wledydd Prydain baratoi i’r firws ledu yn ystod yr wythnosau nesaf.

Bydd cynllun prif weinidog Prydain yn addo “cymryd y camau sydd eu hangen” i reoli’r coronavirus a gwarchod y rhai bregus.

Mae 39 o bobol wedi’u heintio gan y firws yng ngwledydd Prydain hyd yn hyn.

Bydd gwyddonwyr ac arbenigwyr cyfathrebu o’r Llywodraeth a’r Gwasanaeth Iechyd yn cwrdd yn Downing Street er mwyn sefydlu ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus.

Mesurau posib

Mesurau eraill o bosib fydd yn cael eu cyflwyno yw:

  • annog pobol i beidio â theithio os nad oes rhaid, gweithwyr i aros adref, a meddygon a nyrsys sydd wedi ymddeol yn dychwelyd i helpu gyda’r cleifion
  • dod â gwirfoddolwyr y gwasanaethau cyhoeddus i helpu i anfon bwyd i ysbytai
  • gohirio digwyddiadau a rhoi mwy o bwerau i swyddogion rheoli ffiniau i weithredu petaen nhw’n gweld rhywun yn dioddef o’r firws.

Pryderon y Gwasanaeth Iechyd

Yn dilyn cyfarfod Cobra ddoe (dydd Llun, Mawrth 2), lle trafododd y gweinidogion “gynllun brwydr”, dywedodd Boris Johnson ei bod  yn “debygol iawn” y bydd y coronavirus yn lledaenu ymhellach.

Ond er ei fod wedi mynnu bod y gwasanaethau iechyd yn barod i ddelio â’r firws, mae grŵp o ddoctoriaid wedi mynegi pryderon na fydd y Gwasanaeth Iechyd, sydd o dan straen yn barod, yn medru dygymod petai’r achosion yn cynyddu.

Yn ôl Cymdeithas Feddygon y DU, dim ond wyth o’r 1,618 o’r meddygon a gafodd eu holi oedd yn teimlo bod y Gwasanaeth Iechyd yn barod am y coronavirus.

Ac er bod ffynhonnell wedi dweud wrth y Press Association y gallai gymryd “misoedd yn hytrach nag wythnosau” cyn y bydd y firws yn cyrraedd ei anterth yng ngwledydd Prydain, mae Comisiwn Ewrop wedi codi lefel risg coronavirus o fewn yr Undeb Ewropeaidd a gwledydd Prydain o gymhedrol i uchel.