Mae reidiwr beic trydanol wedi’i gael yn ddieuog o ladd cerddwr drwy yrru’n ddiofal yn yr achos llys cyntaf o’i fath.

Roedd Thomas Hanlon, 32, ar ei ffordd adref o’r gwaith ac yn teithio mwy na 10 milltir yr awr yn gyflymach na’r terfyn cyflymdra o 20 milltir yr awr yn Dalston yn nwyrain Llundain, cyn iddo daro Sakine Cihan ar Awst 28, 2018.

Bu farw’r ddynes 56 oed yn yr ysbyty ddiwrnod yn ddiweddarach o ganlyniad i anaf i’w phen.

Mae’n debyg mai hi yw’r cerddwr cyntaf i farw yng ngwledydd Prydain ar ôl gwrthdrawiad â beic trydanol.

Yr achos

Yn yr Old Bailey, roedd Thomas Hanlon wedi gwadu iddo achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal ond bu’n gyrru heb yswiriant a thrwydded.

Trafododd y rheithgor am fwy nag awr ddydd Llun (Mawrth 2) cyn ei chael yn ddieuog o bob cyhuddiad.

Daliodd Thomas Hanlon ei ben yn ei ddwylo a chrïo wrth i’r rheithfarn gael ei chyhoeddi.

Ar ôl gwrthod rhoi tystiolaeth, fe dderbyniodd nad oedd ganddo fe drwydded nac yswiriant ond roedd yn gwadu fod unrhyw beth o’i le â’i ddull o yrru oedd wedi cyfrannu at farwolaeth Sakine Cihan.