Mae dau fachgen 16 oed wedi cael eu cyhuddo o geisio llofruddio dyn yng nghanol dinas Glasgow.

Mae’r heddlu’n credu bod yr ymosodiad wedi digwydd am oddeutu 7.50 nos Wener (Chwefror 28).

Bydd y ddau fachgen yn ymddangos yn Llys Siryff Glasgow heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 3).

“Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu cymorth yn y mater hwn,” meddai’r Ditectif Iain Nelson.

“Mae swyddogion yn parhau i wneud ymholiadau er mwyn darganfod yr holl amgylchiadau arweiniodd at yr ymosodiad a dod o hyd i’r sawl oedd ynghlwm.”