Mae pedwar yn rhagor o bobl wedi cael prawf positif am coronavirus yn Lloegr gan ddod a chyfanswm yr achosion yn y Deyrnas Unedig i 40, meddai’r prif swyddog meddygol yr Athro Chris Whitty.

Mewn datganiad heddiw (dydd Llun, Mawrth 2) dywedodd yr Athro Chris Whitty bod y pedwar person wedi teithio o’r Eidal yn ddiweddar. Maen nhw’n dod o Sir Hertford, Dyfnaint a Chaint, meddai.

Yn y cyfamser dywed Downing Street bod cynllun gweithredu ar gyfer y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael a’r coronavirus wedi cael ei gytuno mewn cyfarfod o’r pwyllgor argyfyngau Cobra ac fe fydd yn cael ei gyhoeddi yfory (dydd Mawrth, Mawrth 3).

Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi rhybuddio  bod y firws yn debygol o ledu’n fwy sylweddol ar draws y Deyrnas Unedig. Ond dywedodd y bydd yn cymryd cyngor gwyddonol cyn cyflwyno mesurau fel cau ysgolion ac atal cyfarfodydd torfol.

“Cyngor gwyddonol”

Wrth adael cyfarfod Cobra ddydd Llun, dywedodd: “Y peth pwysig i bobl ddeall yw y bydd mesurau yn cael eu gwneud ar sail cyngor gwyddonol. Mae pedair cenedl y Deyrnas Unedig a’u prif swyddogion meddygol yn rhan o hyn ac fe fyddan nhw’n ein helpu ni i gymryd penderfyniadau allweddol ynglŷn â phryd a sut i gymryd camau diogelwch.”

Ychwanegodd mai’r peth mwyaf defnyddiol i bawb ei wneud yw golchi eu dwylo’n drylwyr gyda sebon a dŵr poeth.

Hyd yn hyn, dim ond un achos sydd wedi’i gadarnhau yng Nghymru a hynny yn Abertawe.