Mae ymgynghorydd economaidd y Canghellor Rishi Sunak yn dweud nad yw’r diwydiant bwyd yn “hanfodol bwysig” i’r economi, a’i fod yn “sicr” nad yw amaeth na physgodfeydd yn bwysig chwaith.

Daw’r sylwadau gan Dr Tim Leung mewn e-byst sydd wedi’u rhyddhau i’r wasg, yn ôl y Mail On Sunday.

Mae’n awgrymu y gallai Prydain ddilyn esiampl Singapôr, sydd heb ddiwydiant amaeth.

Mae lle i gredu bod y sylwadau wedi cael eu gwneud fel unigolyn ac nid fel ymgynghorydd i’r Trysorlys.

Mae Llywodraeth Prydain wedi ymbellhau oddi wrth y sylwadau, ond mae pryderon y gallai ei farn lywio eu polisi ar ôl Brexit.

Ac mae lle i gredu hefyd bod gan yr ymgynghorydd berthynas agos â Dominic Cummings, prif ymgynghorydd y prif weinidog Boris Johnson, oedd wedi galw ar “weirdos” a “misfits” i wneud cais i weithio i’r llywodraeth.

Amaeth a physgodfeydd

Er bod amaeth a physgodfeydd yn llai nag 1% o economi gwledydd Prydain gyda’i gilydd, maen nhw ymhlith diwydiannau pwysicaf Cymru.

Ond fe bleidleisiodd ardaloedd gwledig ac arfordirol o blaid gadael yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn 2016 ar ôl i ymgyrchwyr ddweud y byddai ffermwyr a physgotwyr ar eu hennill o adael.

Serch hynny, mae bwyd yn rhan bwysig o’r trafodaethau â’r Unol Daleithiau wrth i Lywodraeth Prydain geisio cytundebau masnach i ffwrdd o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae George Eustice, Ysgrifennydd yr Amgylchedd yn San Steffan, eisoes wedi’i feirniadu am awgrymu y gallai cig cyw iâr a chig eidion sydd wedi’u trin â chemegion gael eu mewnforio  fel rhan o gytundeb masnach â’r Unol Daleithiau.

Fe allai hynny, meddai ffermwyr, danseilio’r diwydiant a’u gadael nhw ar eu colled.

Mae pysgotwyr hefyd yn poeni y gallen nhw golli allan o ganlyniad i gwotâu dal pysgod.