Amy Winehouse
Gwenwyn alcohol oedd yn gyfrifol am farwolaeth y gantores Amy Winehouse, meddai crwner.

Wrth gyhoeddi dyfarniad o farwolaeth trwy anffawd, fe ddywedodd Crwner St Pancras fod y berfformwraig 27 oed wedi yfed digon i’w lladd – roedd mwy na phum gwaith lefel gyrru yn ei gwaed.

Fe glywodd y cwest fod Amy Winehouse yn yr arfer o fynd yn sych am rai wythnosau cyn taro’r botel eto am gyfnod.

Fe ddywedodd ei meddyg teulu ei bod wedi cael sawl rhybudd a’i bod yn ymwybodol o’r peryg ond ei bod hi’n “benstiff” iawn ynglŷn â thriniaeth a therapi.

Enwogrwydd

Roedd Amy Winehouse wedi cael enwogrwydd yn ifanc, i ddechrau oherwydd ei llais pwerus a’i gallu cerddorol ond wedyn oherwydd ei ffordd o fyw, gydag alcohol a chyffuriau’n achosi problemau cyson.

Yn 2008, roedd hi wedi ennill pum gwobr Grammy ond, yn ei misoedd ola’, fe fu’n rhaid iddi ganslo cyngherddau.

Ar ôl y cwest fe ddywedodd ei theulu mewn datganiad ei bod hi wedi bod yn brwydro yn erbyn alcohol ond nad oedd hi wedi ennill mewn pryd.

Roedd hynny, medden nhw, yn pwysleisio pwysicrwydd eu gwaith gyda Sefydliad Amy Winehouse, i helpu plant a phobol ifanc.