Mae dyn o Brydain wedi marw o goronafeirws yn Japan.

Roedd y gŵr ar long mordaith y Diamond Princess, yn Yokohama, ac yn gorfod aros ar y llong am ei fod wedi’i heintio.

Cafodd dwsinau o bobol o Brydain eu rhyddhau o’r llong yr wythnos diwethaf wedi iddo ddod i’r amlwg nad oedd ganddyn nhw’r haint.

Bu’n rhaid i grŵp o bedwar, gan gynnwys y dyn a fu farw, aros dan gwarantîn yn y wlad Asiaidd, ac mae cwpwl o Northamptonshire yn dal i gael eu trin mewn ysbyty yno.

Feirws yn lledu

Roedd 705 o’r rheiny a oedd ar fwrdd y llong wedi eu heintio, a hyd yma mae chwe pherson a oedd arni wedi marw – y dyn o wledydd Prydain oedd y tramorwr cyntaf i farw.

Daw’r newyddion wedi i Lywodraeth Cymru ddatgelu bod yr achos cyntaf o goronafeirws wedi’i gadarnhau yng Nghymru.

Bellach mae 19 achos wedi’u cadarnhau ym Mhrydain.