Mae British Airways wedi canslo dwsinau o hediadau i Milan oherwydd cwymp yn y galw yn sgil pryderon am coronavirus.

Fe gyhoeddodd y cwmni hedfan ei fod yn “uno” rhai hediadau rhwng Heathrow a Linate, maes awyr y ddinas.

Mae tua 22 o hediadau dros y pythefnos nesa wedi’u heffeithio.

Fe fydd hediadau British Airways i Milan Malpensa ac yn ôl, yn parhau yn ôl yr arfer.

Dywedodd y cwmni y byddan nhw’n cysylltu gyda chwsmeriaid er mwyn trafod opsiynau teithio neu’n ad-dalu’r arian.

Maen nhw’n cynghori teithwyr i fynd at ba.com ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf am eu hediadau.

Mae British Airways a Virgin Atlantic wedi atal eu hediadau i Tsieina oherwydd y firws, ond mae rhai cwmnïau Tsieineaidd yn parhau i wasanaethu’r Deyrnas Unedig.

Mae mwy na 650 o achosion o coronavirus wedi cael eu cofnodi yn yr Eidal gydag 17 o bobol wedi marw.