Mae dyn 52 oed sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio’r newyddiadurwraig Lyra McKee wedi cael mechnïaeth.

Aeth Paul McIntyre gerbron llys trwy gyswllt fideo o’r carchar yn Derry heddiw (dydd Iau, Chwefror 27).

Dywedodd y barnwr fod “y gymdeithas yn mynnu cyfiawnder i Lyra McKee ond na ellir gweld cyfiawnder fel rhywbeth rhagfarnllyd”.