Fe fydd dau blismon a chyfreithiwr sydd wedi’u cyhuddo mewn perthynas â thrychineb Hillsborough yn mynd gerbron llys y flwyddyn nesaf.

Mae’r cyn-blismyn Donald Denton, 81, ac Alan Foster, 73, ynghyd â’r cyn-gyfreithiwr Peter Metcalf, 70, wedi’u cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Roedd disgwyl iddyn nhw fynd gerbron llys ar Ebrill 20 ond yn Llys y Goron Preston, cafodd yr achos ei ohirio tan ar ôl Ionawr 2, 2021.

Clywodd y llys fod gan wraig Alan Foster glefyd motor niwronau ac mae e’n gofalu amdani’n barhaus.

Dywedodd y barnwr fod angen i’r tri fynd gerbron y llys gyda’i gilydd, ac nad oedd dewis felly ond gohirio’r achos.

Mae’r tri yn wynebu cyhuddiadau mewn perthynas â newid datganiadau i’r heddlu yn dilyn  y trychineb yng nghae pêl-droed Sheffield Wednesday ar Ebrill 15, 1989.

Bu farw 96 o gefnogwyr Lerpwl ar ôl cael eu gwasgu ar y terasau yn ystod eu gêm yn erbyn Nottingham Forest yn rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr.