Mi allai Boris Johnson, prif weinidog Prydain, gefnu ar y trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin os na fydd “bras amlinelliad” o ddêl erbyn hynny.

Yn sgil Brexit, mae gan y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd hyd at ddiwedd mis Rhagfyr i fwrw bargen masnach.

A bellach mae Llywodraeth San Steffan wedi amlinellu ei disgwyliadau hithau o’r trafodaethau, a hynny ar ffurf ‘canllawiau trafodaethau’.

Mae’r Llywodraeth, yn ôl y canllawiau, yn disgwyl “bras amlinelliad o gytundeb” erbyn mis Mehefin. Yna maen nhw’n gobeithio cwblhau’r trafodaethau “yn gyflym” erbyn mis Medi.

“Os nad dyna yw’r sefyllfa erbyn cyfarfod mis Mehefin, bydd yn rhaid i’r Llywodraeth benderfynu os ddylai’r Deyrnas unedig tynnu’i sylw oddi ar y trafodaethau,” meddai’r canllawiau.

“[Mi allai] tynnu’i sylw o’r trafodaethau a chanolbwyntio’n llwyr ar barhau â’r paratoadau domestig i adael y cyfnod trosglwyddo mewn modd trefnus.”

Goblygiadau

Mae disgwyl i’r cyfnod trosglwyddo bara tan Ragfyr 31, mae’n gyfle i daro bargen masnach, ac yn ystod y cyfnod yma mae’r Deyrnas Unedig yn parhau’n rhwym i Ewrop mewn sawl ffordd.

Yn ei hanfod mae canllawiau Llywodraeth San Steffan yn dangos parodrwydd am Brexit heb gytundeb yn dilyn y cyfnod yma os na fydd y trafodaethau yn datblygu’n ddigon cyflym.