Mae un o weinidogion Llywodraeth Prydain wedi amddiffyn y prif weinidog Boris Johnson ar ôl beirniadaeth o’i ddiffyg ymateb i’r llifogydd dros yr wythnosau diwethaf.

Yn ôl Robert Jenrick, y Gweinidog Tai, mae e’n “sicr ei reolaeth” o’r sefyllfa, er iddo gael ei feirniadu am fethu ag ymweld â’r cymunedau sydd wedi cael eu heffeithio.

Yn San Steffan ddoe (dydd Mercher, Chwefror 26), fe wnaeth Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, ei gyhuddo o fod yn “brif weinidog rhan amser”.

Ond yn ôl Robert Jenrick, mae’r fath ymweliadau fel arfer yn “tynnu sylw” ac yn tynnu adnoddau oddi ar y gwasanaethau brys.

“Mae e’n sicr ei reolaeth o ddigwyddiadau,” meddai wrth Sky News.

“Dioddefodd dros 100 o’m hetholwyr wedi cael llifogydd bythefnos yn ôl.

“Yr hyn maen nhw’n awyddus iawn i’w weld yw gweithredu.

“Maen nhw eisiau gweld rhagor o nawdd ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd.

“Maen nhw’n falch fod y Llywodraeth wedi rhoi pecyn sylweddol o gymorth ariannol ar waith.

“Dyna’r pethau ystyrlon sydd, dw i’n meddwl yn bersonol, yn bwysicach na thynnu sylw wrth i’r prif weinidog droi i fyny mewn sefyllfa frys.”

‘Rôl y prif weinidog’

“Rôl y prif weinidog yw sicrhau bod y Llywodraeth yn ymateb yn effeithiol i sefyllfa frys. Dyna’n union mae e wedi’i wneud,” meddai wedyn.

“Yr hyn mae’r prif weinidog yn poeni amdano fwyaf yw sicrhau bod y gwasanaethau brys, cynghorau lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymateb yn briodol.

“Mae e’n sicrhau bod ei weinidogion yn gwneud hynny.”