Mae ffigwr blaenllaw yn yr SNP wedi dweud y dylai’r blaid roi tan y Pasg i Boris Johnson dderbyn gorchmynion am ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban cyn bwrw ati i ddechrau ar gynlluniau i gynnal pleidlais ar eu liwt eu hunain.

Dywed Christopher McEleny, arweinydd grŵp yr SNP ar gyngor Inverclyde “nad yw’n gynaliadwy i gicio trafodaethau ar Gynllun B mewn i’r glaswellt hir” os nad yw pwerau refferendwm yn cael eu trosglwyddo yn yr wythnosau nesaf.

Fis Rhagfyr, gwrthododd Boris Johnson gais Nicola Sturgeon i gael cynnal ail refferendwm, ond mae hi’n dal i fynnu y gallai pleidlais gael ei chynnal eleni.

‘Strategaeth wahanol’

Mae Christopher McEleny, wnaeth lunio “Plan B” annibyniaeth gyda’r Aelod Seneddol Angus MacNeil, yn credu bod yn rhaid edrych ar “strategaeth wahanol” os nad yw refferendwm wedi ei ganiatáu gan San Steffan erbyn y Pasg.

Yna gallai cynnig newydd gael ei roi i gynhadledd yr SNP fis Hydref, meddai.

“Os yw llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod ein hawl i gael refferendwm, yna dylem allu dibynnu ar ein senedd sofren a democrataidd i wneud hynny.”