Bydd yn rhaid i’r Canghellor Rishi Sunak ddefnyddio ei Gyllideb ar Fawrth 11 i godi trethi os yw e am gynnal rheolau’r llywodraeth ar fenthyg, yn ôl sefydliad ariannol.

Dywed y Sefydliad dros Astudiaethau Cyllidol (IFS) y byddai llacio neu ymadael â rheolau a osodwyd ym maniffesto’r Ceidwadwyr y llynedd yn tanseilio targedau cyllidol mae Llywodraeth Prydain wedi eu gosod.

Yn ystod yr etholiad cyffredinol, addawodd y cyn-Ganghellor Savid Javid Gyllideb gytbwys.

Ond yn dilyn ei ymddiswyddiad, mae adroddiadau bod Rishi Sunak o dan bwysau gan Boris Johnson a’i brif ymgynghorydd Dominic Cummings i lacio’r cyfyngiadau gwario.

Benthyg yn codi i £63 biliwn flwyddyn nesaf

Dywed y Sefydliad dros Astudiaethau Cyllidol y gallai lefel benthyg godi i £63bn y flwyddyn nesaf, £23bn yn fwy na rhagolygon swyddogol y Llywodraeth.

A gyda’r Llywodraeth yn benderfynol o godi gwariant, dywed na fyddai cydbwyso’r Gyllideb bresennol yn ddigon i ostwng dyledion yn ystod y Senedd nesaf.

“Nid yw hyn yn gynaliadwy yn y tymor hir,” meddai dadansoddiad y Sefydliad dros Astudiaethau Cyllidol.

“Os yw’r Llywodraeth yn bwriadu gwneud newidiadau radical i drethi a gwariant, nawr yw’r amser i wneud hynny.”