Mae’r Arglwydd Steel yn dweud ei fod e’n “edrych ymlaen at ymddeoliad tawel” ar ôl ymddiswyddo o’r Democratiaid Rhyddfrydol a chyhoeddi y bydd yn gadael Tŷ’r Arglwyddi.

Fe ddaeth i’r amlwg fod cyn-arweinydd y blaid yn gwybod am honiadau o droseddau rhyw yn erbyn Cyril Smith, ond ei fod e wedi penderfynu peidio â throsglwyddo’r achos ar gyfer ymchwiliad.

Dywedodd fod yr honiadau’n “hen hanes”, er ei fod e’n credu eu bod nhw’n wir.

Mae’r Arglwydd Steel bellach wedi bod yn egluro’i benderfyniad i adael y blaid a haen uchaf San Steffan, ar ôl 55 o flynyddoedd yn wleidydd.

“Dw i wedi derbyn awgrym fod rhai yn y Democratiaid Rhyddfrydol eisiau i fi gael fy niarddel a bod yn destun ymchwiliad eto, er gwaethaf proses ddisgyblu flaenorol yn yr Alban a ddaeth i’r casgliad nad oedd angen gweithredu ymhellach,” meddai.

“Dywedir wrtha’ i fod eraill yn bygwth ymddiswyddo pe bai ymchwiliad yn dechrau o’r newydd.

“Dymunaf osgoi’r fath helbul yn fy mhlaid ac osgoi rhagor o niwed i’m teulu.

“Felly rwyf wedi diolch i ysgrifennydd fy mhlaid leol am y gefnogaeth ragorol yn ystod yr holl broses, ac wedi rhoi gwybod i’r blaid leol fy mod yn ymddiswyddo ar unwaith.”

‘Gyda thristwch personol mawr’

“O ran aelodaeth o Dŷ’r Arglwyddi, mae ffrindiau a chydweithwyr gan gynnwys Llefarydd yr Arglwyddi yn ymwybodol fy mod i wedi bod yn ystyried ymddeol fis nesaf, 55 mlynedd ers i fi gael fy ethol yn aelod seneddol,” meddai wedyn.

“Gyda thristwch personol mawr, a gyda diolch i bawb dw i wedi cydweithio â nhw o fewn y blaid a thu hwnt, rwyf bellach wedi penderfynu mai dyma ddylwn i ei wneud cyn gynted â phosib.

“Mae iechyd fy ngwraig wedi dioddef dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Byddaf bellach yn rhoi’r gorau i’r daith wythnosol o’r Alban i Lundain, ac yn mwynhau ymddeoliad tawel o fywyd cyhoeddus.”