Mae Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, yn dweud bod angen i bobol sy’n dychwelyd i wledydd Prydain o unrhyw le yng ngogledd yr Eidal ynysu eu hunain os oes ganddyn nhw symptomau ffliw.

Wrth siarad ar BBC Breakfast fore heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 25), ychwanegodd fod angen i unrhyw un oedd yn dychwelyd o ardaloedd o dan gwarantîn gan Lywodraeth yr Eidal ynysu eu hunain, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw symptomau.

“Bydd y cyngor swyddogol yn cael ei ddiweddaru am wyth o’r gloch fel ei fod yn nodi bod angen i bobol sy’n dychwelyd o ogledd yr Eidal – i’r gogledd o Pisa – ynysu eu hunain os oes ganddyn nhw symptomau ffliw,” meddai.

Yn ôl Matt Hancock, dydy’r Llywodraeth ddim yn ymwybodol o unrhyw un o wledydd Prydain sydd mewn ardaloedd o dan gwarantîn yn yr Eidal.

Ond mae’n annog unrhyw un fu o dan gwarantîn i gysylltu â’r llysgenhadaeth yn Rhufain.