Mae pedwar o bobol o Brydain gafodd eu cludo oddi ar long bleser yn cael eu trin mewn canolfannau arbenigol yng ngogledd Lloegr ar ôl cael prawf positif am coronavirus.

Yn dilyn cadarnhau’r achosion diweddaraf, mae nifer y rhai sydd wedi’u heintio a’r firws yn y Deyrnas Unedig wedi codi i 13. Mae wyth o’r rheiny bellach wedi cael gadael yr ysbyty ac mae un yn parhau yn Ysbyty St Thomas yn Llundain.

Roedd y pedwar person wedi bod ar long bleser y Diamond Princess sydd wedi angori ger Siapan am fwy na phythefnos yn dilyn achosion o coronavirus ymhlith y teithwyr.

Roedden nhw ymhlith 30 o bobol o Brydain a dau ddinesydd o Iwerddon oedd wedi cael eu cludo i Ysbyty Arrowe Park ar Lannau Mersi ddydd Sadwrn. Erbyn dydd Sul roedd y pedwar wedi cael diagnosis positif am y firws.

Mae dau o’r cleifion yn Ysbyty Brenhinol Hallamshire yn Sheffield, un yn Ysbyty Athrofaol Lerpwl a’r pedwerydd yn Ysbyty Brenhinol Victoria yn Newcastle.

Mae un rhan o bump o’r 3,711 o deithwyr oedd ar fwrdd y llong wedi cael eu heintio. Mae nifer y rhai oedd ar y llong ac sydd wedi marw o’r firws wedi codi i 3 ar ôl i’r awdurdodau yn Siapan gadarnhau bod dyn lleol yn ei 80au wedi marw yn yr ysbyty.

Yn Tsieina, mae nifer y meirw wedi cyrraedd mwy na 2,500 ddydd Llun (Chwefror 24) gyda 77,345 wedi cael prawf positif am y firws Covid-19.