Mae Lisa Nandy, un o’r ymgeiswyr yn y ras i arwain y Blaid Lafur, yn dweud iddi “oedi” cyn rhoi sêl bendith i addewid i gefnogi hawliau pobol drawsryweddol.

Mae’r addewid yn galw am wahardd unrhyw aelod o’r blaid sy’n mynegi “safbwyntiau trawsffobig”.

Mae’r addewid hefyd yn cydnabod fod Women’s Place UK, grŵp sy’n credu mai rhyw biolegol person sydd bwysicaf wrth gynnal hawliau menywod, yn “grŵp casineb sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobol drawsryweddol”.

“Rhaid i fi ddweud, dyna’r rhan o’r addewid wnaeth i fi oedi cyn ei lofnodi,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Penderfynais i ei lofnodi yn y pen draw oherwydd dw i’n credu bod yr ymdeimlad yn yr addewid ynghylch amddiffyn hawliau trawsryweddol a’r ymdeimlad am dderbyn fod dynion trawsryweddol yn ddynion a bod menywod trawsryweddol yn fenywod yn bwysig iawn, yn enwedig ar hyn o bryd gyda lefel y gwahaniaethu sy’n wynebu pobol.

“Dw i ddim yn meddwl, mewn gwirionedd, mai gwahardd sefydliadau yw’r ffordd gywir i ymdrin â materion disgyblu o fewn y Blaid Lafur.”

Mae’n dweud mai “ymddygiad unigol” yw’r ystyriaeth bwysicaf, a’i bod yn “briodol cydnabod fod yna fenywod sydd wedi brwydro ers cenedlaethau er mwyn creu llefydd diogel i fenywod sydd eisiau dadl go iawn am sut i’w gwarchod mewn oes lle’r ydyn ni wedi cydnabod fod dynion trawsryweddol yn ddynion a bod menywod trawsryweddol yn fenywod”.

“Rhaid i ni wneud mwy er mwyn amddiffyn menywod trawsryweddol rhag niwed hefyd,” meddai wedyn.

‘Dadl go iawn’

Yn ôl Lisa Nandy, mae’n rhaid cael “dadl go iawn” am hawliau trawsryweddol.

“Dw i ddim eisiau ein gweld ni’n cau dadleuon i lawr a dw i ddim eisiau i unrhyw un sy’n gwrando i feddwl mai dyna dw i’n ei wneud.

“Dw i’n credu bod cardiau addewid eu hunain wedi dod yn broblem go iawn yng ngwleidyddiaeth Prydain a dw i’n meddwl, â’r fantais o edrych yn ôl, y bydden ni mewn lle llawer gwell pe baen ni i gyd wedi gallu llofnodi cerdyn addewid ar y dechrau i ddweud na fydden ni’n llofnodi cardiau addewid, oherwydd un ffordd mae cardiau addewid wedi cael eu defnyddio yw i osod pobol yn erbyn ei gilydd.”

Menywod trawsryweddol ar restr fer o fenywod?

Mae Lisa Nandy yn dweud hefyd y byddai hi’n barod i weld menywod trawsryweddol ar restrau byrion o ymgeiswyr seneddol benywaidd.

“Rhaid i ni dderbyn fod pobol yr hyn y maen nhw’n dweud eu bod nhw.

“Dw i erioed wedi credu y dylai gwleidyddion na fi fel unigolyn ymyrryd na dweud wrth bobol pwy ydyn nhw.”