Mae Nicola Sturgeon yn dweud ei bod hi am aros yn arweinydd yr SNP, a’i bod hi am ddilyn y drefn er mwyn sicrhau annibyniaeth i’r Alban.

Dywed prif weinidog yr Alban ei bod hi am arwain y blaid yn etholiadau Holyrood y flwyddyn nesaf a thu hwnt.

Ac mae hi’n wfftio dull radical o ennill annibyniaeth i’r Alban, gan ddweud na fyddai hi’n “ffafrio” mynd i’r llys ar ôl i Lywodraeth Prydain wrthod rhoi caniatâd iddi gynnal refferendwm arall, ond dydy hi ddim wedi wfftio’r posibilrwydd yn llwyr.

Ar raglen Andrew Marr ar y BBC, dywedodd ei bod hi’n gobeithio cynnal refferendwm annibyniaeth arall cyn diwedd y flwyddyn.

“Dw i’n gwerthfawrogi fod rhai pobol yn ddiamynedd dros annibyniaeth – dw i’n ddiamynedd dros annibyniaeth,” meddai.

“Ond yn bwysicaf oll yw ein bod ni’n cael refferendwm cyfreithlon a dilys sy’n gallu gweithredu annibyniaeth.”

‘Cynllun B’

Tra bod Nicola Sturgeon yn ffafrio dilyn y drefn arferol, mae eraill o fewn yr SNP, gan gynnwys Angus MacNeil, yn cynnig “cynllun B” er mwyn ennill annibyniaeth.

Mae hi’n wfftio’r awgrym fod yr achos tros annibyniaeth “wedi taro wal frics”.

“Mae’r gefnogaeth i annibyniaeth ar gynnydd,” meddai.

“Dyna’r ffordd rydyn ni’n ennill annibyniaeth ond hefyd y ffordd rydyn ni’n trechu’r diffyg cynnydd ar yr hawl i ddewis.

“Fel arweinydd, mae yna gyfrifoldeb i fod yn blwmp ac yn blaen â phobol a weithiau, y peth mwyaf anodd i’w wneud yw bod yn blwmp ac yn blaen â’ch cefnogwyr eich hun.”

Aros yn arweinydd?

Yn ôl Nicola Sturgeon, mae hi’n barod i aros yn arweinydd am ddwy flynedd arall ar sawl amod.

“Rhaid i chi gael cefnogaeth, nid yn unig cefnogaeth y blaid ond y wlad hefyd,” meddai, gan gyfeirio at fuddugoliaeth swmpus yr SNP wrth iddyn nhw ennill 80% o’r seddi.

“Ond yn ail, rhaid i fi fod yn sicr fy mod i eisiau gwneud y swydd hon, a chredu mai fi yw’r person gorau i wneud y swydd, a bod â’r ysgogiad a’r egni, ac mae hynny’n sicr yn wir.”