Fe fydd yr ymgyrchwraig amgylcheddol ifanc Greta Thunberg yn dod i Brydain ddydd Gwener i gymryd rhan mewn protest ieuenctid ym Mryste.

Fe fydd y ferch 17 oed o Sweden yn ymuno â’r Bristol Youth Strike 4 Climate ar College Green yn y ddinas.

Dywedodd un o’r trefnwyr, Milly Sibson sydd o’r ddinas ac sydd hefyd yn 17 oed:

“Mae pawb wedi gwirioni wrth edrych ymlaen at ei chlywed yn siarad.

“Fe fyddwn wrth fy modd o gael cyfle i’w chyarfod oherwydd hi yw sylfaenydd y mudiad ac mae hi mor bwysig – mae hi’n eilun.

“Gobeithio y bydd tyrfaoedd enfawr o bobl yn ymuno â ni i’w chroesawu hi i Fryste.”

Mae’n ymddangos mai bwriad gwreiddiol Greta Thunberg oedd ymweld â Llundain, ond bod trefnwyr y protestiadau wedi ei chynghori y bydd lle i gynnal digwyddiad mwy ym Mryste.